Ceir penodau gwerthfawr ar
Mered yr athronydd,
Mered y Pennaeth Adran yn y BBC, yr addysgwr, y perfformiwr, y canwr a'r casglwr alawon gwerin, ac, wrth gwrs,
Mered yr ymgyrchwr.
Eluned, unig blentyn
Mered a'i wraig Phyllis, a'r amryddawn 'Rocet' Arwel Jones yw golygyddion y gyfrol, ac mae eu cyflwyniad yn crynhoi
Mered i'r dim, yn enwedig yr effaith a gai ar bawb a'i cyfarfu.